P-06-1357 Llunio Cynllun Gweithredu Microblastigau newydd i Gymru
Cyflwynwyd y ddeiseb hon gan Friends of the Earth Cymru, ar ôl casglu cyfanswm o 3,259 lofnodion.
Geiriad y ddeiseb:
Mae gronynnau microblastig wedi'u canfod o gopaon y mynyddoedd uchaf i ddyfnderoedd eithaf y cefnforoedd, ac amcangyfrifir bod microffibrau plastig o'r dillad rydym yn eu gwisgo yn cyfrif am tua 35 y cant o'r holl lygredd plastig yn ein moroedd a'n cefnforoedd.
Canfuwyd bod microblastigau yn wenwynig i fywyd morol ac mae tystiolaeth gynyddol yn awgrymu eu bod yn niweidiol i fywyd ar dir, gan gynnwys ni ein hunain.
Rydym yn galw ar Lywodraeth Cymru i lunio Cynllun Gweithredu Microblastigau newydd i warchod bywyd yn ein moroedd ac ar ein tir.
Gwybodaeth Ychwanegol:
Mae microblastigau yn deneuach na blew dynol ond maent yn achosi problemau mawr i fywyd yn ein cefnforoedd ac ar y tir.
Maent yn dod o sawl ffynhonnell, gan gynnwys poteli plastig, teiars cerbydau a hyd yn oed o baent ar adeiladau a marciau ar y ffyrdd.
Maent hefyd yn yr aer ac yn ein cadwyn fwyd. Mae darnau hyd yn oed wedi'u canfod yn y gwaed mewn 8 o bob 10 o bobl, ac nid ydym yn gwybod eto beth fydd effaith hyn ar iechyd:
Mae gan Lywodraeth Cymru hanes cryf o weithredu ar blastigau ond mae lle i wneud mwy i ymdrin â microblastigau.
Gofynnwn i Lywodraeth Cymru weithio gyda sefydliadau ac arbenigwyr perthnasol i lunio Cynllun Gweithredu Microblastigau i gynnwys camau fel ymdrin â’r microffibrau plastig sy’n cael eu rhyddhau a llygredd microblastigau ar dir ac mewn cyrsiau dŵr o amgylch Cymru, yn ogystal ag addysgu am y materion hyn mewn ysgolion.
Mae llygredd microblastigau yn broblem fawr yng Nghymru – rhaid inni fynd i’r afael ag ef.
Etholaeth a Rhanbarth y Cynulliad
· Gorllewin Caerdydd
· Canol De Cymru